o dybaco wedi ei sychu'n iawn yn un o'r cistiau, a pheth hefyd oedd yn las a heb sychu'n llwyr.
Fe'm harweiniwyd gan y Nefoedd yn ddiamau; canys yn y gist hon cefais feddyginiaeth at Gorff ac enaid. Agorais y gist a chefais y peth yr oeddwn yn edrych amdano, sef, y tybaco; a chan mai yno yr oedd yr ychydig lyfrau oedd gennyf, tynnais allan un o'r Beiblau y soniais amdanynt o'r blaen nad oeddwn hyd yn hyn wedi cael na hamdden na thuedd i edrych arnynt.
Ni wyddwn pa ddefnydd i'w wneud o'r tybaco at fy afiechyd, na pha un a oedd daioni ynddo ai peidio; ond gwneuthum amryw arbrofion gydag ef. I ddechrau, cymerais ddarn o ddeilen a chnoais hi yn fy ngheg yr hyn â'm pensyfrdanodd bron ar y cyntaf, gan fod y tybaco'n las ac yn gryf, a minnau heb gynefino ag ef. Yna mwydais beth am awr neu ddwy mewn rum, a phenderfynu cymryd dogn ohono wrth fynd i orwedd. Ac yn olaf, llosgais beth ar badell lo, a dal fy nhrwyn yn glos uwchben ei fwg gyhyd ag y medrwn ei ddioddef.
Yn ystod yr amser hwn cydiais yn y Beibl, a dechreuais ddarllen, a dim ond agor y llyfr ar ddamwain, y geiriau cyntaf a'm trawodd oedd y rhain: "Galw arnaf fi yn nydd trallod; mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi." Yr oedd y geiriau hyn yn addas iawn i'm hachos i, a gwnaethant argraff ar fy meddwl yr adeg y darllenais hwynt, er nad cymaint ag a wnaethant wedi hynny.
Yr oedd yn hwyrhau yn awr, ac yr oedd y tybaco wedi effeithio cymaint ar fy mhen nes fy mod bron â chysgu; felly gadewais fy lamp i