Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a grogaswn i fyny yn berffaith sych, a dechreuais eu tynnu i lawr oddiar y coed; a da iawn oedd i mi wneud hynny, gan y buasai'r glawogydd a fu ar ôl hynny wedi eu difetha, a buaswn wedi colli y rhan orau o'm bwyd gaeaf, gan fod gennyf dros ddau gan swp ohonynt. Nid cynt yr oeddwn wedi eu tynnu i lawr, ac wedi cludo y rhan fwyaf ohonynt adref i'm hogof, nag y dechreuodd fwrw glaw; ac o'r pryd hwn, sef y 14ydd o Awst, bu'n bwrw fwy neu lai bob dydd tan ganol Hydref, ac weithiau mor ofnadwy fel na fedrwn symud o'm hogof am amryw ddyddiau.

Yr adeg hon, fe'm synnwyd yn fawr gan ychwanegiad yn fy nheulu. Yr oeddwn wedi bod yn bryderus oherwydd colli un o'm cathod a ddiangasai oddiwrthyf, neu fel y tybiwn i, a oedd wedi marw, ac ni chlywais ddim mwy am dani, nes, er syndod i mi, iddi ddyfod adref tua diwedd Awst gyda thair cath fach. Yr oedd hyn yn rhyfeddach fyth i mi, canys, er fy mod wedi lladd cath wyllt â'm gwn, eto tybiwn ei bod yn fath hollol wahanol i'n cathod Ewropeaidd ni, ond yr oedd y cathod bach yn frid tai yr un fath â'r hen un; a chan mai dwy gath fenyw oedd fy rhai i, tybiwn ei fod yn beth rhyfedd iawn. Ond o'r tair cath hyn, fe'm blinwyd gymaint gan gathod wedyn nes y bu raid i mi eu lladd fel bwystfilod gwylltion, a'u gyrru allan o'm tŷ gymaint ag oedd yn bosibl.

O'r 14 0 Awst i'r 26, glaw dibaid, fel na allwn i ddim cyffro, ac yr oeddwn yn ofalus iawn yn awr i beidio â gwlychu llawer. Yn y carchar hwn, dechreuodd fynd yn gyfyng arnaf am