ydd. Wedi i mi ganfod trwy brofiad y canlyniadau niweidiol o fod allan yn y glaw, gofelais am ddarbod fy ymborth ymlaen llaw, fel na fyddai dim rhaid i mi fynd allan; ac eisteddwn i mewn gymaint ag oedd yn bosibl yn ystod y misoedd gwlybion. Yr oedd gennyf ddigon i'w wneud, gan fod arnaf eisiau amryw bethau nad oedd modd i mi eu cael ond trwy lafur caled ac ymroddiad cyson, yn arbennig, cynigiais amryw ffyrdd ar wneud basged, ond yr oedd yr holl frigau a fedrwn gael i'r pwrpas mor frau fel nad oeddynt dda i ddim. Ond un diwrnod trawodd i'm meddwl y buasai brigau'r goeden y toraswn y stanciau ohoni cyn wytned â helyg, a phenderfynais roi cynnig arnynt. A thrannoeth euthum i'm tŷ yn y wlad, fel y galwn ef, ac wedi torri rhai o'r brigau lleiaf, gwelwn eu bod i'r pwrpas; a'r tro nesaf, euthum yno gyda bwyall a thorri llawer ohonynt, gan fod yno ddigonedd. Dodais y rhain i sychu wrth y clawdd, a phan oeddynt yn barod i'w defnyddio cludais hwynt i'm hogof; ac yma yn ystod y tymor nesaf, bum wrthi orau y medrwn yn gwneud basgedi i gario pridd, a hefyd i gludo neu gadw unrhyw beth yn ôl fel y byddai angen arnaf. Ac er nad oeddwn yn eu gorffen yn hardd iawn, eto gwnawn hwynt yn ddigon buddiol i'm pwrpas i.
Soniais o'r blaen fod arnaf awydd mawr gweld yr ynys i gyd; ac yn awr, penderfynais deithio ar ei thraws i'r ochr arall, a chan gymryd fy ngwn, bwyall, a'm ci, a llawer mwy o bowdwr a haels nag arfer, gyda dwy deisen galed a swp mawr o resin, cychwynnais ar fy nhaith. Wedi i mi