fynd heibio i'r dyffryn lle y safai fy hafoty, deuthum i olwg y môr yn y gorllewin, a chan ei bod yn ddiwrnod clir gwelwn dir yn eglur, ond ni fedrwn ddweud pa un ai ynys ai cyfandir ydoedd; ond codai'n uchel iawn gan ymestyn o'r gorllewin i'r De—Orllewin yn y pellter; yn fy marn i, nid oedd ddim llai na phymtheg i ugain milltir o ffordd.
Ni wyddwn pa ran o'r byd a allai hwn fod, heblaw fy mod yn gwybod ei fod yn rhyw ran o'r America, a barnwn yn sicr ei fod yn agos i diriogaethau'r Ysbaen, ac anwariaid efallai yn byw yno; a phe buaswn wedi glanio yno buaswn mewn cyflwr gwaeth nag yr oeddwn ynddo'n awr. Bodlonais felly ar drefn Rhagluniaeth, a dechreuais gredu ei bod yn trefnu popeth er gwell. Felly cerddais ymlaen yn hamddenol, a chefais fod yr ochr hon i'r ynys, lle yr oeddwn yn awr, yn hyfrytach o lawer na'm hochr i,—y Savannas neu'r dolydd teg, wedi eu haddurno â blodau a glaswellt, ac yn llawn coedwigoedd hyfryd.
Gwelais lawer parrot yno, a buaswn yn falch o fod wedi dal un i'w gadw'n ddof a'i ddysgu i siarad â mi. Ac ar ôl cymryd cryn drafferth, fe ddeliais barrot ifanc, gan i mi ei daro i lawr â'm ffon; ac wedi i mi ei gael, deuthum ag ef adref; ond ni fedrais ei ddysgu i siarad am rai blynyddoedd. Fodd bynnag, o'r diwedd dysgais ef i'm galw wrth fy enw.
Cefais hwyl anghyffredin ar y daith hon. Ar y gwastadeddau cefais ysgyfarnogod, fel y tybiwn i, a llwynogod; ond yr oedd gwahaniaeth mawr