Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XII.
DYCHWELYD ADREF—LLWYDDO I DRIN Y TIR.

DYCHWELAIS ar hyd ffordd arall, gan dybio y medrwn yn hawdd gadw'r ynys i gyd gymaint yn fy ngolwg, fel na fethwn gael hyd i'm cartref cyntaf wrth edrych ar y wlad. Ond gwelais fy mod yn camsynied, canys wedi i mi ddyfod tua dwy filltir neu dair, gwelwn fy mod wedi disgyn i ddyffryn mawr, ond yr oedd wedi ei amgylchu â bryniau a'r rheini wedi eu gorchuddio â choed, fel na fedrwn weld fy ffordd ond yn ôl cyfarwyddyd yr haul, a dim hyd yn oed felly, oni bai fy mod yn gwybod yn iawn beth oedd safle'r haul yr adeg honno o'r dydd. Ac yn anffodus hefyd, digwyddodd fod y tywydd yn niwlog am dridiau neu bedwar tra'r oeddwn yn y dyffryn hwn; a chan na fedrwn weld yr haul, crwydrais o gwmpas yn bur anghysurus, ac o'r diwedd bu raid i mi gyrchu am y traeth, edrych am fy mholyn, a dychwelyd y ffordd yr aethwn; ac yna bob yn dipyn trois tuag adref, a'r tywydd yn hynod o boeth, a'm gwn, y taclau saethu, y fwyall, a phethau eraill yn drwm iawn. Ar y daith hon, cododd fy nghi fyn gafr ifanc a chydiodd ynddo; a chan redeg ato i afael ynddo deliais ef, ac achubais ef yn fyw oddiar y ci. Yr oedd arnaf awydd garw mynd ag ef adref os medrwn, canys yr oeddwn wedi bod yn meddwl droeon