Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

coedyn. Trwy ddarnio a naddu anghyffredin, teneuais ei dwy ochr yn asglodion nes yr oedd yn ddigon ysgafn i'w symud; yna troais hi, a gwneuthum un ochr iddi yn llyfn ac yn wastad fel bwrdd, a chan droi'r ochr honno yn isaf, torrais yr ochr arall nes cael y planc tua thair modfedd o drwch ac yn llyfn o'r ddeutu. Gall unrhyw un farnu faint fy nhrafferth ar waith o'r fath; ond dug llafur ac amynedd fi drwy hwnnw a llawer o bethau eraill. Šoniaf am hyn yn arbennig i ddangos y rheswm dros i mi golli cymaint o amser gyda chyn lleied o waith.

Yn awr, ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr, yr oeddwn yn disgwyl fy nghnwd o haidd a reis. Nid oedd y tir oeddwn wedi ei drin iddynt yn fawr; canys fel y sylwais nid oedd gennyf dros hanner pecaid o had. Ond yr oedd fy nghnwd yn argoeli'n dda; pryd yn ddisymwth y gwelwn fod perygl i mi golli'r cwbl eto trwy elynion o amryw fathau yr oedd bron yn amhosibl eu cadw oddiwrtho; megis, y geifr a'r creaduriaid gwylltion a alwn i yn ysgyfarnogod, y rhai, wedi profi melyster yr egin a orweddai ynddo nos a dydd, gan ei bori mor gwta fel na châi ddim amser i dyfu'n wellt.

Ni welwn yr un feddyginiaeth tuag at hyn, heblaw cau o'i amgylch â chlawdd; a gwneuthum hynny gyda chryn lawer o drafferth. Fodd bynnag, gan nad oedd fy nhir âr ond lled fychan, llwyddais i'w gau'n gyfan gwbl ymhen tair wythnos, a chan saethu rhai o'r creaduriaid yn ystod y dydd, rhoddwn fy nghi i'w warchod yn y nos, gan ei rwymo wrth ystanc yn yr adwy lle y safai