PENNOD XIII
GWNEUD LLESTRI PRIDD—DYFAIS I GRASU BARA.
OND yn awr yr oedd yn rhaid i mi ddarparu mwy o dir, gan fod gennyf ddigon o had i hau dros acer o ddaear. Cyn i mi wneud hyn, bum wrthi am wythnos o leiaf yn gwneud rhaw, ac un wael ydoedd wedi i mi ei gorffen, a chymaint arall o lafur i weithio gyda hi. Beth bynnag, heuais fy had mewn dau ddarn mawr o dir gwastad, cyn nesed i'm tŷ ag y medrwn yn ôl fy nhyb i, a chaeais o'u hamgylch â chlawdd da. Cymerodd y gwaith hwn dri mis llawn i mi, gan fod rhan fawr o'r amser hwnnw yn y tymor gwlyb pan na fedrwn fynd allan.
Pan fyddai'n bwrw glaw, byddwn yn gweithio i mewn; a phob amser, tra byddwn wrth fy ngwaith byddwn yn fy mwynhau fy hunan wrth siarad gyda'r parrot; ac fe'i dysgais yn fuan i wybod ei enw ei hun, ac o'r diwedd i weiddi "Pol" yn uchel, a dyma'r gair cyntaf erioed a glywais ei siarad yn yr ynys o ben neb ond fy mhen fy hun. Nid gwaith i mi oedd hwn felly, ond cymorth i'm gwaith. Yr oeddwn wedi bod yn astudio'n hir, trwy ryw ffordd neu'i gilydd, sut i wneud llestri pridd. Ag ystyried gwres yr hinsawdd, nid oeddwn yn amau, pe medrwn gael hyd i glai, na fedrwn i wneud rhyw fath o lestr a fyddai'n ddigon caled a chryf i ddal cydio ynddo, wedi iddo sychu yn yr haul; a chan fod