Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid oedd wiw meddwl cyrraedd y fath berffeithrwydd celfyddyd gydag un pâr o ddwylo. Ni wyddwn yn y byd sut i lenwi'r diffyg hwn; canys, o bob crefft ar y ddaear, yr oeddwn mor anghymwys fel naddwr cerrig â'r un; ac nid oedd arfau gennyf i fynd o'i chwmpas hi. Treuliais amryw ddyddiau yn chwilio am garreg fawr, yn ddigon mawr i'w chafnio; ond ni fedrwn gael un o gwbl heblaw'r rhai oedd yn y graig; ac yn wir nid oedd creigiau'r ynys yn ddigon caled, ond yr oeddynt i gyd yn gerrig tywod brau na ddalient bwysau pestl drom, na briwo'r ŷd heb iddynt ei lenwi â thywod. Felly, wedi colli llawer o amser yn edrych am garreg, rhoddais y gorau iddi, a phenderfynais chwilio am blocyn mawr o bren caled, yr hyn a gefais yn haws o lawer; ac wedi cael un cymaint ag a fedrwn ei symud, lluniais ef ar yr ochr allan a'm bwyall; ac yna trwy gymorth y tân a llafur diben-draw; gwneuthum gafn ynddo, fel y bydd Indiaid Brazil yn gwneud canŵ. Wedyn, gwneuthum bestl fawr drom o'r pren a elwir yn bren haearn; a gosodais y rhain o'r neilltu hyd oni chawn fy nghnwd ŷd nesaf, pryd y bwriadwn falu neu bwyo'r ŷd yn flawd i wneud bara.

Y pobi oedd y peth nesaf i'w ystyried, a sut y gwnawn i fara pan fyddai gennyf ŷd; canys, i ddechrau, nid oedd burum gennyf. A chan na ellid llenwi'r diffyg ni phryderais lawer yn ei gylch; ond ynglŷn â ffwrn, yr oeddwn mewn cryn benbleth. O'r diwedd dyfeisiais beth at hynny hefyd, sef hyn; gwneuthum lestri pridd llydain iawn, ond heb fod yn ddwfn, hynny yw,