Yna mesurais hyd y tir, a phenderfynais dorri doc neu gamlas i ddwyn y dŵr i fyny at y canŵ, gan na fedrwn i ddim dwyn y canŵ i lawr i'r dŵr. Wel, dechreuais y gwaith hwn; ac wedi cyfrif pa mor ddwfn yr oedd yn rhaid ei dorri, pa mor llydan, a sut i luchio'r stwff allan, gwelwn yn ôl y dwylo oedd gennyf, sef dim ond yr eiddof fy hun, y cymerai ddeng mlynedd neu ddeuddeg cyn y byddwn wedi ei gwplau, gan fod y traeth mor uchel nes bod ugain troedfedd o ddyfnder beth bynnag ar yr ochr uchaf; felly, o'r diwedd, er yn anewyllysgar iawn, rhoddais y cynnig hwn heibio hefyd.
Parodd hyn ofid calon i mi; ac yn awr, er yn rhy ddiweddar, gwelwn y ffolineb o ddechrau gwaith cyn i ni gyfri'r draul, a chyn i ni farnu'n iawn ein gallu i'w gwplau.
Ynghanol y gwaith hwn gorffennais fy mhedwaredd flwyddyn yn y fan hon, a chedwais fy mhen blwydd gyda'r un defosiwn, a chyda'r un faint o gysur ag o'r blaen; canys trwy ddyfal astudio gair Duw, a thrwy gymorth Ei ras Ef, enillais wybodaeth wahanol i'r hyn oedd gennyf o'r blaen. Edrychwn yn awr ar y byd fel rhywbeth pell nad oedd a fynnwn i ddim ag ef, na dim i'w ddisgwyl oddiwrtho, nac yn wir ddim i'w ddymuno yn ei gylch. Mewn gair, tybiwn ei fod yn ymddangos fel lle yr oeddwn wedi bod yn byw ynddo, ond fy mod wedi dod ohono; a da y gallwn ddweud, fel y tad Abraham wrth y gŵr goludog, Rhyngof fi a thi y sicrhawyd gagendor mawr. Treuliais ddyddiau cyfain i ddarlunio i mi fy hun â'r lliwiau mwyaf byw, sut y buaswn wedi