ymddwyn pe buaswn heb gael dim byd o'r llong. Ni fuaswn wedi llwyddo hyd yn oed i gael bwyd, dim ond pysgod a chrwbanod, a buaswn wedi byw fel anwariad noeth. Pe lladdaswn afr neu aderyn trwy ryw ystryw, ni allaswn eu blingo na'u hagor mewn ffordd yn y byd, na gwahanu'r cig oddi wrth y croen a'r perfedd, ond buasai'n rhaid i mi ei gnoi â'm dannedd a'i dynnu'n ddarnau â'm crafangau, fel bwystfil.
Parodd y myfyrdodau hyn i mi ystyried daioni Rhagluniaeth tuag ataf, a bod yn ddiolchgar am fy nghyflwr presennol er gwaetha'i holl galedi a'i anffodion; ac ni allaf beidio â chymeradwyo hyn i ystyriaeth y rhai sy'n tueddu i ddweud yn eu hadfyd; A oes y fath ofid â'm gofid i?" Bydded iddynt ystyried pa faint gwaeth yw achosion rhai pobl, ac y gallasai eu hachos hwythau fod yn waeth hefyd, pe mynasai Rhagluniaeth.
Felly penderfynais, nid yn unig ymostwng i ewyllys Duw dan yr amgylchiadau presennol, ond diolch o galon am fy nghyflwr; ac na ddylwn i, a minnau hyd yma yn ddyn byw, ddim cwyno, gan nad oeddwn wedi derbyn cosb ddyladwy am fy mhechodau; fy mod yn mwynhau cymaint o drugareddau nad oedd gennyf reswm dros ddisgwyl amdanynt yn y fan honno; na ddylwn byth mwyach ofidio oherwydd fy nghyflwr, ond llawenhau a rhoddi diolch beunyddiol am fara beunyddiol; y dylwn ystyried fy mod wedi fy mhorthi trwy wyrth (gymaint hyd yn oed ag ydoedd porthi Elias gan y cigfrain); ac mai prin y medrwn enwi lle, mewn rhan anghyfannedd o'r byd, y gallaswn fod wedi fy mwrw arno er gwell