Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynnwch, pan gychwynnais ar y fordaith hon, a chefais hi yn llawer hwy nag y tybiwn; canys er nad oedd yr ynys ei hun yn fawr iawn, eto pan ddeuthum i'r ochr ddwyreiniol iddi cefais yno haen o greigiau yn rhedeg allan am tua dwy filltir i'r môr, rhai yn uwch na'r dŵr, eraill o dano, a gwely o dywod tu draw i hynny yn gorwedd yn sych am tua hanner milltir arall, fel y bu raid i mi fynd ymhell allan i'r môr i redeg heibio i'r trwyn.

Pan welais hwynt gyntaf yr oeddwn am daflu'r antur i fyny a throi'n ôl, gan na wyddwn pa mor bell i'r môr y byddai'n rhaid i mi fynd, ac uwchlaw popeth, yn amau sut y medrwn ddychwelyd o gwbl; felly bwriais angor. Ac wedi i mi sicrhau fy nghwch, cymerais fy ngwn ac euthum i'r lan, gan ddringo i ben bryn lle y gwelwn y trwyn i gyd, a phenderfynais fentro.

Wrth i mi edrych ar y môr o'r bryn hwnnw, lle y safwn, gwelwn gerrynt cryf ofnadwy a redai i'r dwyrain ac a ddeuai hyd yn oed yn agos i'r trwyn; a chymerais fwy o sylw ohono gan i mi weld bod perygl pan ddeuwn iddo i mi gael fy nghario allan i'r môr gan ei rym, a methu cyrraedd yr ynys wedyn. Ac yn wir, oni bai i mi fynd ben y bryn hwn gyntaf, credaf mai felly y buasai; canys yr oedd yr un cerrynt ar yr ochr arall i'r ynys, ond ei fod yn rhedeg ym mhellach oddi wrthi, a gwelwn fod dŵr llonydd wrth y lan; felly nid oedd dim i mi i'w wneud ond dal i mewn o'r cerrynt cyntaf, a byddwn yn fuan mewn dŵr llonydd.

Arhosais yma, fodd bynnag, am ddau ddiwrnod, gan fod y gwynt yn chwythu'n ffres o'r De-