ddwyrain; a thrwy fod hynny yn hollol groes i'r cerrynt, trochionnai'r môr yn arw ar y trwyn, fel nad oedd yn ddiogel i mi gadw yn rhy agos i'r lan, nac ychwaith fynd yn rhy bell allan oherwydd y cerrynt.
Y trydydd dydd, yn y bore, gan fod y gwynt wedi gostegu dros y nos, yr oedd y môr yn dawel, a mentrais hi. Ond cyn gynted ag y deuthum i'r trwyn, a minnau heb fod ond hyd fy nghwch o'r lan, dyma fi i ddyfnder arswydus, a llif fel cafn melin. Cludodd fy nghwch i'w ganlyn gyda'r fath rym fel na allwn ei gadw hyd yn oed ar ei ymyl, ond gwelwn ei fod yn fy nghipio ym mhellach bellach oddiwrth y dŵr llonydd oedd ar y llaw dde i mi. Nid oedd dim gwynt yn cyffro i'm helpu; a theimlwn yn awr nad oedd dim ond trengi yn fy aros; nid yn y môr, gan fod hwnnw'n ddigon tawel, ond marw o newyn. Mae'n wir fy mod wedi cael crwban ar y traeth, bron cymaint ag a fedrwn ei godi, ac yr oeddwn wedi ei daflu i'r cwch; ac yr oedd gennyf lond llestr pridd o ddŵr croyw.
Prin y gellir dychmygu fy mraw; wedi fy ngyrru o'm hynys annwyl i ganol yr eigion mawr, a heb obaith dychwelyd iddi mwyach. Fodd bynnag, gweithiais yn galed, nes bod fy nerth bron â phallu, a chedwais fy nghwch gymaint ag a fedrwn i'r gogledd. Yn y prynhawn, a'r haul yn ei anterth, tybiwn fy mod yn clywed awel o wynt i'm hwyneb yn codi o'r De-ddwyrain. Cododd hyn ychydig ar fy nghalon, yn enwedig ymhen rhyw hanner awr pan chwythai awel led gref. Erbyn hyn yr oeddwn ymhell ofnadwy o'r