ynys, a phetasai cwmwl neu ychydig dawch wedi codi, buasai wedi darfod arnaf mewn ffordd arall hefyd; canys nid oedd cwmpawd gennyf yn y cwch, ac ni fuaswn byth yn gwybod sut i lywio i gyfeiriad yr ynys pe buaswn unwaith wedi colli golwg arni. Ond gan i'r tywydd bara'n glir, ymrois ati i godi'r mast eto a lledu'r hwyl, gan ddal i'r gogledd gymaint ag a allwn, er mwyn cadw o'r cerrynt.
Cyn gynted ag y codais y mast a'r hwyl, ac i'r cwch ddechrau symud, gwelwn oddiwrth loywder y dŵr fod rhyw gyfnewidiad yn y cerrynt yn agos; canys lle yr oedd y cerrynt yn gryf iawn, yr oedd y dŵr yn fudr, ond lle'r oedd y dŵr yn loyw, gwelwn y cerrynt yn lleihau, ac yn fuan, tua hanner milltir i'r dwyrain, gwelwn y môr yn torri ar greigiau.
Cludodd y llif hwn fi tua thair milltir ar fy ffordd yn ôl yn union i gyfeiriad yr ynys, ond tua chwe milltir yn fwy i'r gogledd nag a wnaethai'r cerrynt a'm cludodd i ffwrdd ar y cyntaf; fel pan ddeuthum yn agos i'r ynys y cefais fy hun ar du'r gogledd iddi, hynny yw, y pen arall i'r ynys, gyferbyn â'r un yr aethwn allan ohono. Fodd bynnag, gyda gwynt teg, ymhen tuag awr, cyrhaeddais o fewn milltir i'r traeth, a chan fod y dŵr yn y fan honno yn llonydd, deuthum yn fuan i'r lan.
Wedi dod i'r lan, syrthiais ar fy ngliniau, a diolchais i Dduw am iddo fy ngwaredu; ac wedi i mi fwyta ychydig o'r pethau oedd gennyf, tynnais fy nghwch i'r lan i gilfach fechan a welswn o dan ryw goed, a gorweddais i lawr i gysgu,—