Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynedd arall yr oedd gennyf dair a deugain, heblaw amryw a laddaswn yn fwyd i mi fy hun. Wedi hynny caeais bum darn o dir i'w bwydo ynddynt, gyda chutiau bychain iddynt, ac adwyau o'r naill gae i'r llall.

Yn awr, yr oedd gennyf nid yn unig gig geifr i'w fwyta pan fynnwn, ond llaeth hefyd; a chodais laethdy, ac weithiau cawn alwyn neu ddau o laeth y dydd. O'r diwedd, er nad oeddwn wedi godro buwch erioed, heb sôn am afr, na gweld neb yn gwneud nac ymenyn na chaws, eto, ar ôl amryw gynigion, llwyddais i wneud ymenyn a chaws, ac ni fûm heb ddim byth wedyn.

Buasai'n ddigon i beri i stoic wenu fy ngweld i a'm teulu bach yn eistedd i lawr i gael cinio. Dyna lle'r oedd fy mawrhydi yn dywysog ac yn arglwydd yr ynys i gyd. Yr oedd bywydau fy holl ddeiliaid yn gwbl dan fy awdurdod i. Gallwn grogi, dirdynnu, roddi rhyddid neu ei atal; a heb ddim un gwrthryfelwr ymysg fy holl ddeiliaid. A byddwn yn ciniawa fel brenin, ar fy mhen fy hun, a'm gweision yn fy ngwasanaethu. Pol yn unig a gâi gennad i siarad â mi, fel petasai ef yn ffafryn gennyf. Eisteddai fy nghi (oedd yn awr wedi mynd yn hen ac yn hollol hurt) wrth fy ochr ar y llaw dde, a'm dwy gath, un bob ochr i'r bwrdd, yn disgwyl tamaid o'm llaw yn awr ac yn y man.

Yr oedd golwg ddigon aflêr arnaf, ac wrth edrych arnaf fy hun, ni allwn beidio â gwenu wrth feddwl amdanaf fy hun yn teithio trwy Sir Gaerefrog yn y fath wisg. Yr oedd gennyf gap mawr uchel di—lun, wedi ei wneud o groen gafr, gyda