Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sef darn o hwyl wedi ei daenu ar bolion, ac nid oedd byth angen ei hadgyweirio na'i hadnewyddu.

Gerllaw yr oedd gennyf fy nghaeau i'm praidd, hynny yw, fy ngeifr. Yma hefyd y tyfai fy ngrawnwin, a chan mai arnynt hwy y dibynnwn am f'ystôr o resin at y gaeaf, byddwn yn eu cadw yn ofalus iawn. Gan fod hwn tua hanner y ffordd rhwng fy mhreswylfod arall a'r lle y cadwaswn fy nghwch, byddwn yn aros yma yn gyffredin ar y ffordd yno; canys awn yn fynych i weld fy nghwch, a chadwn bopeth oedd yn perthyn iddo yn daclus iawn.