PENNOD XVII.
GWELD ÔL TROED AR Y TYWOD—OFNI'R GWAETHAF —DARPARU I'W AMDDIFFYN EI HUN.
TUA chanol dydd, un diwrnod, a minnau yn mynd i gyfeiriad fy nghwch, synnwyd fi'n anghyffredin wrth weld ôl troed noeth dyn ar y traeth, a oedd i'w weld yn eglur iawn yn y tywod. Sefais fel un wedi ei syfrdanu neu fel petawn wedi gweld drychiolaeth. Gwrandewais, edrychais o'm hamgylch, ond ni allwn glywed dim byd na gweld dim byd. Euthum i dir codi i edrych ymhellach. Euthum i fyny'r traeth, ac i lawr y traeth, ond yr oedd i gyd yr un fath; ni fedrwn weld dim un ôl ond hwnnw. Euthum ato drachefn i weld a oedd rhagor yno, a rhag ofn nad oedd yn ddim byd mwy na'm dychymyg i; ond nid oedd dim lle i hynny, canys yno yr oedd ôl troed perffaith,—bysedd, sawdl, a phob rhan o droed. Sut y daeth yno, ni wyddwn i ddim, ac ni fedrwn ddychmygu o gwbl. Ac fel dyn wedi drysu'n hollol ac allan o'm pwyll, deuthum adref i'm hamddiffynfa, megis heb glywed y tir y troediwn arno, ond wedi fy nychrynu hyd yr eithaf, gan edrych yn ôl bob dau gam neu dri, camgymryd pob llwyn a choeden, a chan ddychmygu mai dyn ydoedd pob bonyn o bell.