Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan ddeuthum at fy nghastell (canys felly y galwn ef ar ôl hyn) ffoais iddo fel un a erlidid. Pa un ai mynd dros yr ysgol a wneuthum neu drwy'r twll yn y graig, a alwn i yn ddrws, ni allaf gofio; na, ac ni allwn gofio hyd yn oed fore trannoeth. Ni chysgais ddim y noson honno. Dychmygwn weithiau mai'r diafol ydoedd; canys sut y gallai unpeth arall ar ffurf dyn ddod i'r lle? Ble'r oedd y llestr a'i cludodd yno? Ble'r oedd yr ôl traed eraill? A sut yr oedd yn ddichonadwy i ddyn ddod yno? Ond tybiwn wedyn y gallasai'r diafol fod wedi darganfod digonedd o ffyrdd eraill i'm dychrynu heblaw drwy'r un ôl troed hwn, ac ymddangosai'r peth yn anghyson â dichellion y diafol. O'r diwedd, bernais mai rhai o'r anwariaid o'r tir mawr gyferbyn â mi oedd wedi crwydro dros y môr yn eu badau a glanio ar yr ynys, ond eu bod wedi mynd i ffwrdd drachefn, gan ei bod mor gas efallai ganddynt hwy aros yn yr ynys ddiffaith hon ag a fuasai gennyf innau eu derbyn.

Tra rhedai'r myfyrdodau hyn drwy fy meddwl, yr oeddwn yn ddiolchgar iawn nad oeddwn yn digwydd bod oddeutu'r lle yr adeg honno, ac nad oeddynt hwythau ddim wedi gweld fy nghwch. Yna daeth syniadau arswydus i'm meddwl ynglŷn â'u bod wedi darganfod fy nghwch, a bod pobl yma; ac os felly, fe fyddent yn sicr o ddychwelyd drachefn yn niferoedd mwy, ac fe'm llarpient.

Ac fel hyn fe ymlidiodd fy ofn bob gobaith crefyddol oedd ynof. Diflannodd pob hyder a feddwn gynt yn Nuw; a thybiwn yn awr mai fy rhan i oedd ymostwng a dioddef ei gosbedigaeth