Ef, gan fy mod wedi pechu yn Ei erbyn. Yna meddyliais drachefn y gallai Duw, ag yntau nid yn unig yn gyfiawn, ond yn hollalluog, fy ngwaredu hefyd; ac os na welai Ef yn dda wneuthur hynny, fy nyletswydd i oedd ymostwng yn llwyr ac yn hollol i'w ewyllys Ef; ac ar y llaw arall, yr oedd yn ddyletswydd arnaf obeithio ynddo hefyd, gweddio arno, cadw Ei orchmynion a dilyn cyfarwyddiadau ei Drefn Ef.
Ynghanol y myfyrdodau a'r ofnau hyn, trawodd i'm meddwl un diwrnod nad oedd hyn yn ddim byd ond gwag ddychymyg o'm heiddo i, ac efallai nad oedd hwn yn ddim mwy nag ôl fy nhroed i fy hun pan ddeuthum i'r lan o'm cwch. Siriolodd hyn fi ychydig hefyd, a dechreuais fy mherswadio fy hun mai twyll oedd y cwbl, ac nad oedd yn ddim byd ond fy nhroed i fy hun. Dechreuais ymwroli yn awr, a mynd allan drachefn, gan nad oeddwn i ddim wedi cyffro o'm castell am dri diwrnod a thair noson, ac yr oeddwn yn mynd yn brin o fwyd. Gwyddwn hefyd fod eisiau godro'r geifr, ac yr oedd y creaduriaid druain mewn poen ac anghysur mawr; ac yn wir bu bron iddo andwyo rhai ohonynt, a'u hesbio.
A chan ymgalonogi, felly, trwy gredu nad oedd hwn yn ddim byd ond ôl un o'm traed i fy hun, dechreuais fynd allan drachefn, ac euthum i'm tŷ yn y wlad i odro fy ngeifr. Ond o weld fel yr ofnwn fynd yn fy mlaen, mor aml yr edrychwn yn ôl, mor barod oeddwn yn awr ac eilwaith i osod fy masged ar lawr a rhedeg am fy mywyd, buasai yn ddigon i beri i rywun feddwl yr afonyddid arnaf gan gydwybod euog, neu fy