mod yn ddiweddar wedi fy nychrynu yn ofnadwy; ac felly, yn wir, yr oeddwn.
Beth bynnag, gan i mi fynd i lawr fel hyn am ddeuddydd neu dri, heb weld dim byd, dechreuais fod ychydig yn fwy eofn, a meddwl nad oedd dim byd yn y peth ond fy nychymyg i fy hun. Ond ni allwn fy mherswadio fy hunan yn llawn nes i mi fynd i lawr i'r traeth drachefn, a gweld yr ôl troed, a'i fesur wrth yr eiddof fy hun, a gweld a oedd tebygrwydd rhyngddynt, er mwyn bod yn sicr mai fy nhroed i ydoedd. Ond pan ddeuthum i'r lle; yn gyntaf, yr oedd yn amlwg i mi nad oedd ddichon i mi fod ar y traeth oddeutu'r fan honno pan oeddwn yn cadw fy nghwch; yn ail, pan euthum i fesur yr ôl â'm troed fy hun, gwelwn nad oedd fy nhraed i ddim cymaint o lawer. Llanwodd y ddau beth hyn fy mhen â dychmygion newyddion, a chrynwn gan annwyd fel un â'r cryd arno; a dychwelais adref wedi fy llenwi â'r syniad fod rhyw ddyn neu ddynion wedi glanio yno; neu ynteu fod yr ynys yn gyfannedd, ac efallai y deuid ar fy ngwarthaf heb yn wybod i mi; ac ni wyddwn pa gwrs i'w gymryd er diogelwch i mi.
O! y fath benderfyniadau chwerthinllyd a wna dynion pan feddiennir hwy gan ofn! Y peth cyntaf a awgrymais i mi fy hun ydoedd chwalu fy nghloddiau a throi fy holl braidd yn wyllt i'r coedwigoedd, rhag ofn i'r gelyn ddod ar eu traws ac yna cyrchu i'r ynys drachefn gyda'r bwriad o gael yr un anrhaith neu rywbeth tebyg; yna ceibio fy nau gae ŷd, rhag iddynt gael y fath rawn yno a chael eu hannog felly i fynychu'r