gorffen y mur hwn; ac eto ni'm teimlwn fy hun yn ddiogel nes ei gwpláu.
Pan orffennwyd hyn, gwthiais i'r ddaear frigau coed tebyg i helyg, am bellter mawr i bob cyfeiriad. Credaf fy mod wedi gosod yn agos i ugain mil ohonynt, gan adael lle gwag pur fawr rhyngddynt a'r clawdd, er mwyn i mi gael lle i weld gelynion, a rhag iddynt hwythau gael cysgod y coed ifainc pe ceisient ddod yn agos i'm clawdd.
Ymhen dwy flynedd o amser yr oedd gennyf lwyn o goed trwchus; ac ymhen pum mlynedd neu chwech yr oedd gennyf goedwig o flaen fy nghartref, yn tyfu mor aruthrol o drwchus a chadarn fel yr oedd yn annichon mynd trwyddi. Trefnais fynedfa i mi fy hunan i fynd yn ôl a blaen trwy osod dwy ysgol ar y graig; a phan dynnid yr ysgolion ymaith ni allai undyn byw ddod i lawr ataf heb iddo ei niweidio ei hun.
Pryderwn lawer hefyd ynghylch fy niadell fechan o eifr; ac wedi ystyriaeth hir, ni allwn feddwl ond am ddwy ffordd i'w hachub. Un ydoedd, chwilio am le cyfleus arall i dorri ogof o dan y ddaear, a'u gyrru hwynt iddi bob nos; a'r llall ydoedd, cau dau ddarn neu dri o dir ymhell oddiwrth ei gilydd lle y medrwn gadw tua hanner dwsin o eifr ifainc ymhob un; fel os digwyddai rhyw anffawd i'r praidd yn gyffredinol y medrwn fagu rhai drachefn heb fawr o drafferth ac mewn byr amser. Felly treuliais beth amser i chwilio am y rhannau mwyaf cudd o'r ynys, a threwais ar fan oedd mor neilltuedig ag a allwn ei ddymuno. Darn bychan o dir llaith ydoedd ynghanol coed trwchus, a bron yn dair acer;