Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wedi ei amgylchu â choed fel nad oedd dim hanner cymaint o lafur i'w gau â'r darnau eraill oedd gennyf. Mewn llai na mis o amser, yr oeddwn wedi ei gau, a symudais ddeg o eifr ieuainc a dau fwch gafr i'r darn hwn.

Euthum drwy'r holl lafur hyn, yn unig am fod arnaf ofn oherwydd yr ôl troed a welswn; canys hyd yn hyn, ni welais yr un creadur o ddyn yn dod yn agos i'r ynys.