asai'r dyhirod anwaraidd i'w gwleddoedd annynol ar gyrff eu cyd-greaduriaid.
Fe'm synnwyd gymaint gan yr olwg ar y pethau hyn, fel na thybiwn o gwbl fod dim perygl i mi oddi wrthynt am amser maith. Claddwyd fy holl ofnau yn y meddyliau am y fath gieidd-dra annynol ac uffernol, a'r arswyd oherwydd dirywiad y natur ddynol; ac er y clywswn am y peth yn aml, ni chawswn erioed olwg mor agos arno o'r blaen. Trois fy wyneb oddiwrth yr olygfa erchyll, a bûm bron â llewygu, ac ni fedrwn ddioddef aros yn y lle foment yn hwy; ond dringais y bryn drachefn cyn gynted ag y medrwn, a cherddais ymlaen i gyfeiriad fy mhreswylfod.
Pan ddeuthum allan o'r rhan honno o'r ynys, sefais yn llonydd am ychydig, fel pe bawn wedi fy syfrdanu; yna gan fy adfeddiannu fy hun, edrychais i fyny gyda holl angerdd fy enaid, a'm dagrau'n lli, a diolchais i Dduw am iddo osod fy rhan i ddechrau mewn cwr o'r byd lle yr oedd gwahaniaeth rhyngof a'r creaduriaid arswydus hyn. Ac mewn agwedd diolch fel hyn, euthum adref i'm castell, a theimlwn yn fwy tawel yn awr nag oeddwn o'r blaen. Gwyddwn fy mod yn awr wedi treulio deunaw mlynedd yma bron, ac ni welswn ôl traed creadur o ddyn erioed o'r blaen. Eto yr oedd ynof y fath atgasrwydd at y dyhirod anwaraidd y soniais amdanynt, fel yr oedd arnaf gymaint o ofn eu gweld â gweld y diafol ei hun, ac fe'm cyfyngais fy hunan i'm cylch fy hun am tua dwy flynedd wedi hyn. Ni wneuthum gymaint â mynd i edrych ar fy nghwch yn ystod yr amser hyn i gyd, ond dechreuais yn