hytrach feddwl am wneud un arall; canys ni allwn feddwl rhoi cynnig arall ar nôl y cwch hwnnw, rhag ofn i mi gyfarfod â rhai o'r creaduriaid hyn ar y môr.
Fodd bynnag, dechreuodd amser dreulio ymaith fy anesmwythyd yn eu cylch; a dechreuais fyw yr un mor dawel ag o'r blaen; gyda'r gwahaniaeth hwn yn unig, fy mod yn fwy gochelgar, ac yn cadw fy llygaid yn fwy agored nag o'r blaen, rhag ofn y gwelid fi gan rai ohonynt, ac yn enwedig yr oeddwn yn fwy gochelgar wrth danio fy ngwn, rhag ofn i rai ohonynt, a hwythau ar yr ynys, ddigwydd ei glywed.
Fe gymerai gyfrol fwy na hon i mi osod i lawr yr holl ddichellion a luniais yn fy meddwl i ddistrywio'r creaduriaid hyn, neu o leiaf i'w dychrynu fel ag i'w rhwystro rhag dod yma byth mwy. Weithiau meddyliwn am dorri twll dan y lle y gwnaent dân arno, a rhoddi deubwys neu dri o bowdr—gwn ynddo a phan gyneuent hwy y tân fe daniai hwnnw a chwythu i fyny bopeth a fyddai'n agos iddo. Ond, yn y lle cyntaf, gan y byddai'n anodd iawn gennyf wastraffu cymaint â hynny o bowdr arnynt, a minnau heb fod yn sicr y taniai ar adeg arbennig; ac ar y gorau ni wnâi fawr fwy na lluchio'r tân o amgylch eu clustiau a'u dychrynu; felly rhoddais y peth o'r neilltu. Yna bwriadu gwneud cynllwyn a'm gosod fy hun mewn man cyfleus gyda'm tri gwn wedi eu llwytho, ac ynghanol eu gloddest gwaedlyd, saethu atynt, a byddwn yn sicr o ladd neu glwyfo dau neu dri ohonynt ar bob ergyd; ac yna rhuthro arnynt gyda'm tri phistol a'm cleddau,