Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a diau gennyf petai yno ugain ohonynt y lladdwn i'r cwbl. Bu'r syniad hwn yn fy mhen am rai wythnosau; ac yr oeddwn mor llawn ohono fel y breuddwydiwn amdano, ac weithiau breuddwydiwn fy mod ar ollwng ergyd atynt yn fy nghwsg.

O'r diwedd, cefais le ar ochr y mynydd lle tybiwn y gallwn aros yn ddiogel nes y gwelwn eu cychod yn dyfod; a gallwn wedyn ymguddio heb iddynt fy ngweled yn y llwyni coed; ac yno gallwn eistedd a'u gwylio ac anelu at eu pennau pan fyddent mor agos at ei gilydd fel na allwn i ddim peidio â chlwyfo tri neu bedwar ohonynt ar yr ergyd gyntaf. Ac wedi i mi baratoi fy nghynllwyn fel hyn, awn am dro'n barhaus bob bore i ben y bryn i edrych a welwn i gychod ar y môr yn dynesu at yr ynys. Ond dechreuais flino ar y gwaith hwn, wedi i mi fod wrthi'n gwylio'n gyson am ddeufis neu dri, a gorfod dychwelyd bob tro heb ddarganfod dim byd; a dechreuais feddwl ar beth yr oeddwn am ymosod. Pa awdurdod a pha hawl oedd gennyf fi i gymryd arnaf fod yn farnwr a dienyddiwr ar y gwŷr hyn fel drwgweithredwyr, a'r Nefoedd wedi gweld yn dda eu gadael yn ddigerydd am gymaint o oesau.

Parodd yr ystyriaethau hyn i mi ymatal; a phob yn dipyn rhoddais fy nghynllun heibio, a barnwn yn awr mai camwri fyddai ymosod ar yr anwariaid; nad fy musnes i oedd ymyrryd â hwynt oni bai eu bod hwy yn ymosod arnaf fi gyntaf. Ar y cyfan, credwn mai fy musnes i oedd ymguddio rhagddynt, a pheidio â gadael yr