Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arwydd lleiaf iddynt ddyfalu oddi wrth hynny fod yr un dyn byw ar yr ynys. A diolchais yn ostyngedig ar fy ngliniau i Dduw, am iddo fy ngwaredu rhag euogrwydd gwaed; gan erfyn arno Ef roddi amddiffyn Ei Ragluniaeth drosof, fel na syrthiwn i ddwylo'r barbariaid ac na osodwn innau mo'm dwylo arnynt hwythau, oni bai fy mod yn derbyn galwad y Nef i wneuthur hynny er mwyn amddiffyn fy einioes fy hun.