PENNOD XIX.
ROBINSON YN DARGANFOD OGOF, LLE Y CAIFF LOCHES RHAG YR ANWARIAID.
DELIAIS ati yn y dull hwnnw am yn agos i flwyddyn wedi hynny, ac nid euthum i fyny'r bryn o gwbl i weld a oedd rhai ohonynt yn y golwg. Ond fe symudais fy nghwch i ben dwyreiniol yr ynys a gadewais ef mewn cilfach lle y gwyddwn na ddeuai'r anwariaid yno ar gyfrif yn y byd. Ar wahan i hyn, cadwn o'r golwg yn fwy nag erioed, ac anfynych yr awn o'm cell oddieithr i odro fy ngeifr a gofalu am fy mhraidd yn y coed.
Y mae'n sicr nad oedd yr anwariaid hyn ddim yn cyrchu i'r ynys gyda'r bwriad o ddarganfod dim byd yno, ac felly ni fyddent byth yn crwydro o'r traeth. Ond fe roddodd y peryglon hyn a'r ofn parhaus oedd arnaf ben ar bob dyfais a chynllun o'm heiddo er sicrhau gwell cyfleusterau a hwylustod i mi yn y dyfodol. Yn awr gofalwn fwy am fy niogelwch nag am fy mwyd. Ni fynnwn guro hoelen na thorri darn o bren yn awr, rhag ofn y clywid y sŵn a wnawn; llawer llai y taniwn wn, am yr un rheswm; ac, yn anad dim, byddwn yn annioddefol o anesmwyth wrth wneud tân, rhag ofn i'r mwg fy mradychu, ac am y rheswm hwn symudais y rhan honno o'm gwaith yr oedd angen tân ynglŷn â hi, megis