petaswn i'n sicr na fuasai'r anwariaid ddim yn aflonyddu arnaf, y buaswn yn fodlon treulio gweddill fy oes yma, hyd yn oed tan y foment olaf, hyd nes y buaswn yn gorwedd i lawr a marw fel yr hen afr yn yr ogof. Yr oedd gennyf hefyd ychydig bethau i'm difyrru, a barai i'r amser fynd heibio yn fwy pleserus nag o'r blaen. Yn gyntaf, yr oeddwn wedi dysgu Pol i siarad; a gwnâi hynny mor groyw a chlir fel yr oedd yn hyfryd iawn i mi, a bu fyw gyda mi am chwe blynedd ar hugain. Bu fy nghi yn gydymaith difyr ac annwyl iawn i mi am ddim llai nag un mlynedd ar bymtheg o amser, a bu farw wedyn o ddim byd ond henaint. Gyda golwg ar fy nghathod, amlhaodd y rhain gymaint fel y bu rhaid i mi saethu amryw ohonynt rhag iddynt fy nifa i a phopeth oedd gennyf; ond, o'r diwedd, trwy eu gyrru ymaith oddiwrthyf yn barhaus, a pheidio â rhoi dim bwyd iddynt, rhedodd y cwbl yn wyllt i'r coed, oddieithr dwy neu dair o'm ffafriaid; ac yr oedd y rhain yn rhan o'm teulu. Heblaw y rhain, cadwn yn wastad ddau neu dri myn gafr a ddysgwn i fwyta o'm llaw; ac yr oedd gennyf ddau barrot arall a siaradai'n bur dda, a gwaeddent hwythau " Robin Crusoe," ond nid oedd yr un ohonynt fel y cyntaf. Yr oedd gennyf hefyd amryw o adar y môr na wn i mo'u henwau, y rhai a ddaliaswn ar y traeth, a thorri eu hadenydd; ac, fel y dywedais uchod, yr oeddwn yn dechrau bodloni ar y bywyd oedd gennyf pe gallesid ei ddiogelu oddi wrth ofn yr anwariaid.
Ond fel arall y trefnwyd iddi fod, ac nid peth o'i le fyddai i bawb a ddaw ar draws fy stori i,