mi, ac fe'i rhoeswn i gyd am ddeubar neu dri o 'sgidiau a 'sanau Lloegr,—pethau yr oedd arnaf angen mawr amdanynt; ond yr oedd blynyddoedd er pan fuasai rhai am fy nhraed i.
Wedi i mi ddwyn popeth i'r lan a'u cadw yn ddiogel, a mynd â'm cwch i'w borthladd, cyrchais i'm hen gartref, lle y cefais bopeth yn ddiogel ac yn dawel. Gorffwysais yn awr, gan fyw yn yr hen ddull; dim ond fy mod yn fwy gwyliadwrus nag yr arferwn fod, ac nid awn allan gymaint.
Bum fyw yn y cyflwr hwn am ddwy flynedd arall bron, a'm pen yn llawn o syniadau a chynlluniau ar sut i ddianc o'r ynys; a chredaf yn wir, pe buasai'r cwch yr aethwn ynddo o Sallee gennyf yn awr, y buaswn wedi mentro i'r môr. Mae'n wir fod gennyf fwy o gyfoeth yn awr nag oedd gennyf o'r blaen, ond ni fedrwn wneud dim gwell defnydd ohono nag a wnâi Indiaid Periw cyn i'r Ysbaenwyr ddod yno.
Rhyw noswaith yn ystod y tymor glawog ym mis Mawrth, a'r bedwaredd flwyddyn ar hugain er pan oeddwn wedi gosod fy nhraed ar yr ynys unig hon, gorweddwn yn effro yn fy ngwely. Yr oedd fy iechyd yn iawn, a dim mwy o anesmwythdra meddwl arnaf nag arfer, ond ni allwn gau fy llygaid mewn modd yn y byd, hynny yw, i gysgu; na, dim un chwinciad drwy gydol y nos, dim ond fel a ganlyn:
Euthum drwy holl hanes fy mywyd, mewn crynodeb fel petai, hyd at fy nyfod i'r ynys hon, a hefyd y darn hwnnw o'm bywyd er pan ddeuthum i'r ynys. Wrth ystyried fy sefyllfa er yr adeg y deuthum yma, yr oeddwn yn cymharu fy am-