syrthio ac wedi eu lladd, fel y tybiai ef,—eto i gyd wedi ei ddychrynu gymaint gan y sŵn a'r tân o'm dryll i, fel y safodd yn farw—lonydd, ac ni symudodd nac yn ôl nac ymlaen, er y dangosai fwy o duedd i ffoi nag i ddod ymlaen. Gwaeddais arno drachefn, a gwneuthum arwyddion iddo ddod ymlaen, y rhai a ddeallai yn hawdd, a daeth ychydig bach; yna safodd drachefn, ac ymlaen ychydig wedyn, ac aros eilwaith; a gwelwn yna ei fod yn crynu wrth sefyll, fel pe y cymerasid yntau yn garcharor a'i fod yntau i'w ladd fel y gwnaed i'w ddau elyn. Amneidiais arno drachefn i ddyfod ataf, a gwneud pob arwydd y gallwn feddwl am dano i'w galonogi; a daeth yn nes nes gan benlinio bob rhyw ddeg cam neu ddeuddeg, yn arwydd o ddiolch am i mi achub ei fywyd. Gwenais arno, gan edrych yn siriol, ac amneidio arno i ddod yn nes eto. O'r diwedd daeth i'm hymyl, ac yna penliniodd drachefn, cusanodd y ddaear, a gosododd ei ben ar y ddaear, a chan gydio yn fy nhroed, dododd fy nhroed ar ei ben. Yr oedd hyn, mae'n debyg, yn golygu tyngu llw i fod yn gaethwas i mi am byth. Codais ef i fyny, a gwneud yn fawr ohono, a rhoddi pob cefnogaeth iddo. Ond yr oedd ychwaneg o waith i'w wneud eto; canys sylwais nad oedd y dyn gwyllt a darawswn ddim wedi ei ladd, a'i fod yn dechrau dod ato'i hun; felly dangosais iddo nad oedd hwnnw ddim wedi marw; ar hyn dywedodd ychydig eiriau wrthyf, ac er na ddeallwn mo honynt, eto tybiwn eu bod yn ddymunol i'w gwrando, gan mai dyma'r sŵn llais dynol cyntaf a glywswn, ag eithrio yr eiddof fy hun, ers dros
Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/191
Gwedd