Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef iddo, a chuddiodd ef, a gwnaeth yr un peth â'r llall. Credaf ei fod wedi claddu'r ddau ymhen chwarter awr. Yna gan alw arno oddi yno, euthum ag ef, nid i'm castell, ond draw i'm hogof ar yr ochr bellaf i'r ynys. Yna rhoddais fara iddo a sypyn o resin i'w bwyta, a diod o ddŵr; ac wedi i mi adfywio tipyn arno amneidiais arno i fynd i orwedd i lawr a chysgu, gan ddangos lle iddo yr oeddwn wedi gosod gwellt reis a phlanced arno, lle y cysgwn fy hunan weithiau; a gorweddodd y creadur druan i lawr a chysgodd.

Yr oedd yn greadur glandeg, hardd, hollol luniaidd, gydag aelodau cryfion unionsyth, heb fod yn rhy fawr, yn dal a golygus, ac yn ôl fy marn i, tua chwech ar hugain oed. Yr oedd ganddo wynepryd digon dymunol,—nid rhyw olwg ffyrnig a sur, ond yr oedd rhywbeth gwrol anghyffredin yn ei wyneb, ac eto yr oedd holl fwynder a thynerwch Ewropeaidd yn ei wedd hefyd, yn enwedig pan wenai. Yr oedd ei wallt yn hir ac yn ddu, nid yn gyrliog fel gwlân; a chanddo dalcen mawr uchel, a rhyw hoen anghyffredin a chraffter pefriol yn ei lygaid. Nid oedd lliw ei groen yn hollol ddu, ond yr oedd yn felyn—ddu iawn; ac eto nid y melynddu hyll annymunol fel y Brasiliaid a'r Virginiaid a brodorion eraill America, ond yr oedd rhywbeth dymunol iawn ynddo, er nad yw'n hawdd iawn ei ddisgrifio. Yr oedd ei wyneb yn grwn ac yn dew, ei drwyn yn fychan ond nid yn fflat fel y negroaid, genau digon tlws, gwefusau teneuon, a'i ddannedd tlysion yn wastad a chyn wynned ag ifori.