Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi iddo gysgu am tua hanner awr, dihunodd drachefn, a daeth allan o'r ogof ataf fi, gan fy mod i wedi bod yn godro'r geifr a gadwn yn y cae yn ymyl. Pan welodd fi, daeth ataf dan redeg, a gorwedd drachefn ar lawr gyda phob arwydd posibl o ostyngeiddrwydd a diolchgarwch, gan wneud llawer o ystumiau i ddangos hynny. O'r diwedd dododd ei ben yn fflat ar lawr yn union wrth fy nhroed, a gosododd fy nhroed arall ar ei ben fel y gwnaethai o'r blaen, ac wedi hyn gwnaeth bob math o arwydd gwrogaeth, gwasanaeth, ac ymostyngiad, er mwyn dangos i mi sut y gwasanaethai fi gyhyd ag y byddai byw. Deallwn ef mewn amryw bethau, a gadawn iddo wybod fy mod yn falch iawn ohono. Ymhen peth amser dechreuais siarad ag ef, a'i ddysgu yntau i siarad â mi, ac, yn gyntaf, cefais ganddo wybod mai ei enw fyddai FRIDAY, sef y dydd yr achubais ei fywyd. Dysgais ef hefyd i ddweud Meistr; ac yna rhoi gwybod iddo mai dyna fy enw i. Dysgais ef hefyd i ddweud IE a NAGE, ac i wybod eu hystyr. Rhoddais laeth iddo mewn llestr pridd, a gadael iddo fy ngweld i yn ei yfed o'i flaen, a mwydo fy mara ynddo; a rhoddais dafell o fara iddo yntau i wneud yr un fath, a chydsyniodd ar unwaith, a gwnaeth arwyddion ei fod yn gwneud lles mawr iddo.

Arhosais yno gydag ef drwy'r noson honno; ond cyn gynted ag y dyddiodd, amneidiais arno i ddod gyda mi, a gadewais iddo wybod y rhoddwn ddillad iddo, ac ymddangosai'n falch o hynny, canys yr oedd yn noeth lymun. Wrth i ni fynd heibio i'r fan y claddasai'r ddau ddyn ynddi