Prawfddarllenwyd y dudalen hon
rhaid i mi ragofalu dim ynghylch fy niogelwch o'i blegid ef. Yn wir yr oeddwn yn falch iawn o'm cydymaith newydd; a chymerais drafferth i ddysgu popeth iddo i'w wneud yn ddefnyddiol, yn ddeheuig, ac yn wasanaethgar, ond yn arbennig i wneud iddo siarad a'm deall innau pan siaradwn i. Ac yr oedd yn un o'r ysgolheigion parotaf a fu erioed; ac yr oedd mor llawen, mor hynod o ddiwyd, ac mor falch pan fedrai fy neall i, neu ynteu gael gennyf fi ei ddeall ef, fel y byddwn wrth fy modd yn siarad ag ef. Ac yn awr dechreuodd fy mywyd fod mor esmwyth, fel y dechreuais ddywedyd wrthyf fy hun,—petaswn i ddim ond yn ddiogel rhag ychwaneg o anwariaid na fyddai ddim gwaeth gennyf petawn i byth heb symud o'r lle tra byddwn i byw.