PENNOD II.
YR ANTUR GYNTAF—EI BROFIAD AR Y MÔR—MORDAITH I GUINEA.
CREDAF na bu i anffodion yr un anturiwr ieuanc ddechrau ynghynt na pharhau yn hwy na'r eiddof fi. Cyn gynted â bod y llong allan o Hymyr, dechreuodd y gwynt chwythu, a'r tonnau godi yn y modd mwyaf dychrynllyd; a chan nad oeddwn wedi bod ar y môr erioed o'r blaen, yr oeddwn yn sâl ofnadwy, ac yr oedd ofn arswydus arnaf. Dechreuais feddwl yn ddifrifol yn awr ar y peth a wnaethwn; ac mor gyfiawn ydoedd barn y Nefoedd arnaf am fy anfadrwydd yn gadael tŷ fy nhad ac yn esgeuluso fy nyletswydd. Yn awr daeth cynghorion fy rhieni, dagrau fy nhad ac erfyniadau fy mam, yn fyw i'm cof, a chyhuddodd fy nghydwybod fi o ddirmygu cynghorion, ac anghofio fy nyletswydd i Dduw ac i'm tad.
Yn ystod yr amser hwn gwaethygodd y storm a chododd y môr yn uchel iawn, er nad oedd yn ddim wrth y peth a welais ar ol hyn; ond yr oedd yn ddigon i effeithio arnaf y pryd hwnnw, a minnau heb fod ond llongwr ifanc, a heb erioed wybod dim byd am y peth. Disgwyliwn i bob ton ein llyncu, a phob tro y disgynnai'r llong i gafn neu bant y môr, fel y tybiwn i, ofnwn na chodem byth wedyn; ac yn yr ing meddwl hwn addunedais a