Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tir, na'r lleuad na'r sêr. Gofynnais iddo wedyn, os yr hen greadur yma oedd wedi gwneud popeth, paham na fuasai popeth yn ei addoli? Edrychodd yn ddifrifol iawn, a chyda golwg hollol ddiniwed, meddai, "Y mae popeth yn dweud O wrtho Ef.”

Gofynnais iddo a âi'r bobl a fyddai'n marw yn y wlad hon ymaith i rywle? Meddai yntau: Ant, ânt i gyd at Benamwci." Yna gofynnais iddo a âi y rhai a fwytaent hwy yno hefyd? Dywedodd yntau, " Ant."

Oddi wrth y pethau hyn dechreuais ei hyfforddi i adnabod y gwir Dduw. Dywedais wrtho fod Creawdwr mawr popeth yn byw i fyny acw, gan ddangos i gyfeiriad y nefoedd; ei fod Ef yn llywodraethu'r byd gyda'r un gallu a'r un rhagluniaeth ag oedd ganddo yn ei wneud; ei fod Ef yn hollalluog, ac y gallai Ef wneud popeth er ein mwyn, rhoddi popeth i ni, a chymryd popeth oddi arnom; ac fel hyn yn raddol agorais ei lygaid. Gwrandawodd yn astud iawn, a derbyniodd gyda phleser mawr y syniad am Iesu Grist wedi ei anfon i'n gwaredu, a'n dull ni o weddïo ar Dduw ac yntau yn gallu ein clywed hyd yn oed yn y Nefoedd. Dywedodd wrthyf un diwrnod, os gallai ein Duw ni ein clywed i fyny tu hwnt i'r haul, ei fod yn sicr o fod yn Dduw mwy na'u Benamwci hwy, a drigai heb fod nepell oddi yma; ac eto ni allai glywed dim nes iddynt fynd ato i'r mynyddoedd uchel lle y trigai i siarad ag ef. Gofynnais iddo a fuasai ef yno erioed yn siarad ag ef? Atebodd, "Na." Ni fyddai'r gwŷr ieuainc byth yn mynd; nid âi neb yno ond yr