Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynafgwyr y rhai a alwai ef yn Oowokakee; sef yw hynny, fel yr eglurodd i mi, eu gwŷr crefyddol neu offeiriaid. Aent hwy i ddweud O (felly y galwai ef ddweud paderau), ac yna dychwelent, ac adroddent wrthynt beth a ddywedai Benamwci.

Ceisiais egluro'r ystryw hwn i Friday, a dywedais wrtho mai twyll ydoedd esgus yr hynafgwyr yn mynd i fyny'r mynyddoedd i ddweud O wrth eu duw Benamwci, ac os siaradent â rhywun yno mae'n rhaid mai ysbryd drwg ydoedd; yna cefais sgwrs hir ag ef am y diafol, am ei gymeriad gwreiddiol, ei wrthryfel yn erbyn Duw, ei elyniaeth tuag at ddyn, y rheswm am hynny, amdano'n ymsefydlu yn nhywyll leoedd y ddaear iddo gael ei addoli yn lle Duw ac fel Duw, a'r amryw ddichellion a ddefnyddiodd er llithio'r ddynoliaeth i ddinistr; y ffordd ddirgelaidd oedd ganddo at ein nwydau a'n serchiadau, ac o drefnu ei faglau gogyfer â'n tueddiadau, ac o beri i ni fod yn demtwyr hyd yn oed arnom ein hunain, a rhedeg i'n dinistr yn ôl ein mympwy ein hunain.

Wedi i mi fod yn dweud wrtho sut yr oedd y diafol yn elyn Duw yng nghalonnau dynion, a sut yr oedd yn ceisio dinistrio teyrnas Crist yn y byd a phethau felly:

"Wel," meddai Friday, "ond chi deud fod Duw mor fawr, mor gry', onid yw lawer mwy cry', mwy mawr na'r diafol?"

'Ydi, ydi, Friday," meddwn i, " y mae Duw yn gryfach na'r diafol; y mae Duw yn uwch na'r diafol, ac felly fe fyddwn yn gweddïo ar Dduw i'w fathru dan ein traed, a'n cynorthwyo