hwn, safodd Friday yn syn am amser hir a heb ddweud dim. Gofynnais iddo am beth yr oedd yn meddwl. Ac o'r diwedd, meddai: Fi gweld llawer o cwch fel hwn yn dod i lle'n pobol ni." Nid oeddwn yn ei ddeall am gryn amser; ond o'r diwedd, rhoddodd ar ddeall i mi fod cwch tebyg i hwn wedi dod i'r lan yn y wlad yr oedd ef yn byw ynddi; hynny yw, fel yr eglurodd ef, yr oedd wedi ei yrru yno gan ddrycin.
Disgrifiodd Friday y cwch i mi'n bur dda; ond deëllais ef yn well pan ychwanegodd gyda brwdfrydedd: "Ydyn ni'n achub dynion gwyn rhag boddi."
Toc gofynnais iddo a fyddai dynion gwyn yn y cwch?
"Bydd," meddai, " bydd cwch yn llawn o dyn gwyn.
Gofynnais iddo pa sawl un. Rhifodd yntau ddau ar bymtheg ar ei fysedd. Yna gofynnais iddo beth a ddeuai ohonynt; dywedodd yntau, "Nhw'n byw, nhw'n aros gyda cenedl fi."
Rhoddodd hyn syniadau newydd yn fy mhen. Dychmygwn mai dyma'r dynion oedd wedi eu llongddryllio y tu allan i'm hynys i, fel y galwn hi'n awr; ac wedi i'r llong daro'r graig, eu bod wedi eu hachub eu hunain yn eu cwch, ac wedi glanio ar y traeth anial hwnnw ymysg yr anwariaid. Yna holais ef yn fanylach beth oedd wedi digwydd iddynt. Sicrhaodd yntau fi eu bod yn byw yno eto; eu bod yno ers tua phedair blynedd; a bod yr anwariaid yn gadael llonydd iddynt ac yn rhoi bwyd iddynt. Gofynnais iddo sut na fuasent yn eu lladd ac yn eu bwyta. Dywedodd yntau,