"Na, nhw'n gwneud brawd â nhw." Yna ychwanegodd, Nhw ddim bwyta dynion ond pan mae nhw gwneud rhyfel ymladd," sef yw hynny, ni fyddant byth yn bwyta dynion ond y rhai fydd yn dod i ymladd â hwy ac a gymerir mewn brwydr.
Un diwrnod gofynnais iddo, " Friday, a fuasit ti yn hoffi bod yn dy wlad dy hun eto?"
Buaswn," meddai, "buaswn yn falch iawn o fod gyda cenedl fi."
"Beth wnait ti yno?" meddwn i,
"A fuasit ti'n troi 'n wyllt, a bwyta cig dynion eto?"
Edrychodd yn bryderus, a chan ysgwyd ei ben, dywedodd," Na, na; Friday dweud wrthyn nhw am fyw yn dda; gweddio ar Dduw; bwyta bara, cig anifeiliaid, llaeth, dim bwyta dynion eto."
Yna gofynnais iddo a âi ef yn ôl atynt? Gwenodd, a dywedodd na fedrai ef ddim nofio cyn belled. Dywedais wrtho y gwnawn i ganŵ iddo. Dywedodd yntau yr âi os awn i gydag ef.
"Fi fynd," meddwn i, "beth, fe'm bwytânt i os dof i yno?"
"Na, na," meddai, "fi gneud nhw beidio bwyta chi; fi gneud nhw caru chi llawer."
O'r adeg hon rhaid i mi gyfaddef fod arnaf awydd mentro drosodd; ac ymhen ychydig ddyddiau dywedais wrth Friday y rhown i gwch iddo i fynd adref at ei genedl ei hun. Nid atebodd yr un gair, ond edrychodd yn ddwys ac yn drist iawn. Gofynnais iddo beth oedd yn bod arno? Gofynnodd yntau, "Pam chi'n ddig gynddeiriog wrth Friday, beth mae fi wedi gneud?"