phenderfynais, os gwelai Duw yn dda achub fy mywyd y fordaith hon, os byth y cawn fy nhroed ar dir sych drachefn; yr awn adre'n syth at fy nhad, fe dderbyniwn ei gyngor ef, ac ni ruthrwn byth mwyach i'r fath drueni â hyn. Yn awr fe welwn yn eglur werth ei sylwadau ar sefyllfa ganol bywyd, mor esmwyth, mor gysurus yr oedd ef wedi byw ar hyd ei oes, heb erioed fod yn agored i stormydd ar y môr, na helbulon ar y lan; ac megis afradlon gwir edifeiriol, penderfynais ddychwelyd adref at fy nhad.
Parhaodd y meddyliau dwys hyn cyhyd ag y parhaodd y storm, ac yn wir am beth amser wedyn; ond drannoeth gostegodd y gwynt a thawelodd y môr, a dechreuais gynefino ag ef. Fodd bynnag yr oeddwn yn lled brudd y diwrnod hwnnw, a thipyn o glefyd y môr arnaf o hyd; ond at y nos fe gliriodd y tywydd, yr oedd y gwynt wedi llwyr ostegu, daeth yn fin nos hynod o braf; aeth yr haul i lawr yn berffaith glir, a chododd felly fore trannoeth; a chydag ychydig neu ddim gwynt, a môr llyfn, gyda'r haul yn tywynnu arno, yr oedd yr olygfa, i'm tyb i, yr hyfrytaf a welswn erioed.
Yr oeddwn wedi cysgu yn dda yn y nos, a chan nad oedd clefyd y môr arnaf yn awr, yr oeddwn yn lled siriol, yn edrych mewn syndod ar y môr oedd mor arw ac ofnadwy y diwrnod cynt, ac yn gallu bod mor dawel a hyfryd mewn cyn lleied o amser wedyn. Mewn gair, gan fod wyneb y môr wedi dyfod yn esmwyth drachefn ac yn hollol dawel trwy i'r storm honno ostegu, fe lwyr anghofiais yr addunedau a'r addewidion a wnaethwn yn fy nghyni, ac ymhen pum niwrnod neu chwech yr