Prawfddarllenwyd y dudalen hon
y gallwn fynd ati heb fy ngweld, ac yna byddwn o fewn hanner ergyd iddynt. Felly cedwais fy nhymer, er fy mod yn wir wedi cynddeiriogi yn ofnadwy; a chan fynd yn ôl ryw ugain cam, cedwais yng nghysgod y llwyni nes y deuthum at y goeden arall; ac yna deuthum i ychydig o dir codi a chefais olwg lawn arnynt, o tua phedwar ugain llath o bellter.