PENNOD XXV.
ROBINSON YN RHYDDHAU YSBAENWR O AFAEL YR ANWARIAID—FRIDAY YN CANFOD EI DAD—GWNEUD LLE I'R DDAU.
Nid oedd gennyf funud i'w golli yn awr, gan fod pedwar ar bymtheg o'r dyhirod yn eistedd ar lawr yn dwr gyda'i gilydd, ac yr oeddynt newydd yrru'r ddau arall i ladd y Cristion druan, a'i ddwyn efallai, bob yn aelod, at y tân; ac yr oeddynt yn gwyro i lawr i ddatod y rhwymau oddi am ei draed. Troais at Friday: "Yn awr, Friday," meddwn, gwna fel y gorchmynnaf i ti."
Dywedodd Friday y gwnâi.
"Felly, Friday," meddwn, " gwna yn union fel y gweli fi'n gwneud."
Yna dodais un mwsged ac un dryll ar lawr, a gwnaeth Friday yr un fath, a chyda'r mwsged arall anelais at yr anwariaid a pheri iddo yntau wneud yr un peth. Yna gofynnais iddo a oedd yn barod; dywedodd ei fod.
"Tania arnynt," meddwn i; a'r un funud fe deniais innau hefyd.
Anelodd Friday gymaint gwell na mi fel y lladdodd ef ddau ohonynt a chlwyfodd dri arall; ac fe leddais innau un, a chlwyfais ddau. Cawsant i gyd fraw dychrynllyd, a neidiodd pob un oedd heb ei anafu ar ei draed, ond ni wyddent ar un-