waith pa ffordd i redeg, na pha ffordd i edrych, gan na wyddent o ba le y daethai eu dinistr. Cadwodd Friday ei lygaid yn dyn arnaf; teflais y mwsged i lawr a chydiais yn y dryll, a gwnaeth Friday yr un peth.
"Wyt ti'n barod, Friday?" meddwn i.
"Ydw," meddai yntau.
"Gollwng ynte," meddwn innau, "yn enw Duw!"
Ac ar hynny teniais drachefn ar y dyhirod, ac felly Friday; a chan mai ergydion mân oedd yn ein gynnau, ni welem ddim ond dau yn unig yn syrthio; ond clwyfwyd cynifer fel y rhedent o amgylch gan wichian a gweiddi fel creaduriaid cynddeiriog, yn waed diferol, ac amryw wedi eu clwyfo'n dost; a syrthiodd tri arall ohonynt yn lled fuan, er nid yn hollol farw.
"Yn awr, Friday," meddwn i, gan gydio yn y mwsged a oedd ag ergyd ynddo, "dilyn fi."
Ar hynny rhuthrais allan o'r coed, a Friday wrth fy sawdl. Cyn gynted ag y sylwais eu bod wedi fy ngweld, gwaeddais gymaint ag a fedrwn, a pherais i Friday wneud hynny hefyd; a chan redeg cyn gynted ag y medrwn, euthum ar fy union at yr adyn druan a orweddai ar y traeth, rhwng y lle yr eisteddent hwy a'r môr. Yr oedd y ddau gigydd a oedd ar ymosod arno wedi ei adael ac wedi ffoi mewn braw ofnadwy at ymyl y dŵr ac wedi neidio i ganŵ, a gwnaeth tri o'r lleill yr un peth. Trois at Friday a pherais iddo fynd ymlaen a thanio arnynt; deallodd fi ar unwaith, a chan redeg tua deugain llath i fod yn nes atynt, saethodd atynt, a thybiwn ei fod wedi eu