lladd i gyd gan i mi eu gweld yn syrthio'n bentwr i'r cwch, er i mi weld dau ohonynt yn codi'n gyflym drachefn. Fodd bynnag, lladdodd ddau ohonynt, a chlwyfodd y trydydd fel y gorweddodd yng ngwaelod y cwch fel petai wedi marw.
Tra'r oedd Friday yn tanio arnynt, tynnais fy nghyllell a thorrais yr hesg a rwymai'r un oedd i'w ladd druan, a chan ryddhau ei ddwylo a'i draed, codais ef i fyny, a gofynnais iddo yn nhafodiaith y Portugeaid, beth ydoedd. Atebodd yn Lladin "Christianus "; ond yr oedd mor wan a llesg fel mai prin y medrai na sefyll na siarad. Tynnais fy mhotel o'm poced a rhoddais hi iddo, gan arwyddo arno i yfed, a gwnaeth yntau; a rhoddais damaid o fara iddo a bwytaodd ef. Yna gofynnais iddo un o ba wlad ydoedd; meddai yntau, "Espagniole"; a thrwy arwyddion ceisiodd ddangos i mi gymaint oedd ei ddyled i mi am ei waredu.
"Seignior," meddwn i, mewn hynny o Sbaeneg a oedd gennyf, " fe gawn siarad eto, ond rhaid i ni ymladd yn awr. Os oes rhywfaint o nerth ar ôl gennyt, cydia yn y pistol a'r cleddau hwn, a bwrw iddi hi."
Nid cynt yr oedd yr arfau yn ei ddwylo nag y rhuthrodd ar ei lofruddion fel peth cynddeiriog, a malodd ddau ohonynt yn ddarnau mewn eiliad. Fe gedwaisi fy ngwn yn fy llaw heb ei danio, gan fy mod wedi rhoi fy mhistol a'm cleddau i'r Sbaenwr. Felly gelwais ar Friday, a pherais iddo redeg at y goeden, o'r lle y taniasom gyntaf, i nôl y gynnau a daniasid, yr hyn a wnaeth gyda brys mawr, a chan roi fy mwsged iddo, eisteddais