i lawr i ail-lenwi'r lleill, a pherais iddynt ddod ataf pan fyddai eisiau. Tra'r oeddwn i yn rhoi ergydion yn y gynnau, bu brwydr ffyrnig rhwng y Sbaenwr ac un o'r anwariaid a ymosododd arno gydag un o'u cleddyfau pren mawr. Ymladdasai'r Sbaenwr, er ei fod yn wan, â'r Indiad hwn am hir, ac yr oedd wedi ei glwyfo ddwywaith yn ei ben yn dost; ond gan fod yr anwariad yn greadur mor heini, yr oedd wedi ei fwrw i lawr, ac yr oedd yn troi fy nghleddau i o'i law, pan fu'r Sbaenwr yn ddigon call i ollwng y cleddau, er ei fod yn isaf, a thynnodd y pistol o'i wregys, saethodd yr anwar drwy ei ganol, a lladdodd ef yn y fan cyn i mi fedru mynd yn agos ato.
Gan fod Friday yn awr at ei ryddid, dilynodd y dyhirod oedd ar ffo heb yr un arf yn ei law ond ei fwyall; a chyda honno gorffennodd y tri a glwyfasid ar y cyntaf a chynifer o'r lleill ag a fedrai eu dal; ac aeth y Sbaenwr ar ôl dau arall gyda gwn a roddais i iddo, a chlwyfodd y ddau; ond gan na allai ef redeg dihangodd y ddau oddi arno i'r coed, lle y dilynodd Friday hwynt, gan ladd un ohonynt; ond yr oedd y llall yn rhy sionc, ac er ei fod wedi ei glwyfo, neidiodd i'r môr a nofiodd â'i holl egni at y rhai hynny a adawyd yn y canŵ,—a dyna'r cwbl a ddihangodd oddi arnom allan o'r un ar hugain. Y mae'r cyfrif i gyd fel hyn:
- 3 wedi eu lladd ar ein hergyd gyntaf o'r goeden.
- 2 wedi eu lladd ar yr ergyd nesaf.
- 2 wedi eu lladd gan Friday yn y cwch.