Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddwn wedi cael goruchafiaeth mor llwyr ar fy nghydwybod ag y gall yr un llanc ifanc ddymuno amdani.

Y chweched diwrnod i ni fod ar y môr, daethom i Yarmouth Roads; gan i'r gwynt ddal yn groes a'r tywydd yn dawel, nid oeddem wedi symud ymlaen ond ychydig er adeg y storm. Yma bu rhaid i ni fwrw angor, ac yma y buom, gan fod y gwynt yn parhau yn groes, sef, yn y de-orllewin am saith niwrnod neu wyth. Ni buasem, fodd bynnag, wedi angori yma cyhyd, ond buasem wedi mynd i fyny'r afon gyda'r teit, oni bai fod y gwynt yn chwythu'n rhy ffres; ac wedi i ni orwedd yma bedwar diwrnod neu bump, chwythai yn galed iawn. Beth bynnag, gan yr ystyrrid y Roads cystal â phorthladd, yr angorfa yn dda, a'n taclau ninnau yn ddigon cryf, yr oedd ein dynion yn hollol ddidaro heb ofn perygl arnynt o gwbl, ond treuliasant yr amser i orffwyso a'u difyrru eu hunain yn null y môr. Ond yr wythfed dydd yn y bore, cryfhaodd y gwynt, ac yr oedd y dwylo i gyd ar waith gennym i wneud popeth yn ddiogel ac yn dyn, er mwyn i'r llong forio mor esmwyth ag oedd bosibl. Erbyn y prynhawn cododd y môr yn uchel anghyffredin, a nofiai'r llong â'i fforcasl dan ddŵr, a thybiem unwaith neu ddwy fod yr angor wedi dyfod adref; ar hyn gorchmynnodd ein meistr roddi'r prif angor allan, fel y moriem gyda dau angor ymlaen, a'r rhaffau wedi eu troi allan i'r pen gorau arnynt.

Erbyn hyn chwythai storm ddychrynllyd, ac yn awr gwelwn ofn a braw yn wynebau hyd yn oed y llongwyr eu hunain. Clywn y meistr, wrth