dynnu allan fy mhotel, gwneuthum iddo roi llymaid i'r creadur tlawd, yr hyn, ynghyda'r newyddion ei fod yn rhydd, a'i hadfywiodd, ac eisteddodd yn y cwch. Ond pan glywodd Friday ef yn siarad, ac iddo edrych yn ei wyneb, yr oedd yn ddigon i beri i neb golli dagrau wrth weld Friday yn ei gusanu, yn ei gofleidio, yn ei wasgu, yn crio, yn chwerthin, yn gweiddi, yn neidio, yn dawnsio, ac yn canu; yna'n cric drachefn, yn troi ei ddwylo, yn curo ei wyneb ei hun a'i ben; ac yna yn canu ac yn neidio oddi amgylch fel creadur gwallgo. Bu ysbaid cyn y medrais gael ganddo siarad â mi, neu ddweud wrthyf beth oedd yn bod; ond pan ddaeth ato ei hun ychydig, dywedodd wrthyf mai ei dad ydoedd.
Rhoddodd y peth hwn derfyn ar ein hymlid ar ôl y canŵ a'r anwariaid eraill a oedd yn awr wedi mynd bron o'r golwg; a da oedd i ni na wnaethom hynny, gan iddi chwythu mor galed ymhen dwyawr wedyn, a chyn iddynt allu mynd chwarter y ffordd, a daliodd i chwythu mor galed drwy'r nos, fel na thybiwn i'w cwch allu byw nac iddynt hwythau erioed gyrraedd i'w tir eu hun.
Ond rhaid dychwelyd at Friday. Yr oedd mor brysur gyda'i dad, fel na chlywn ar fy nghalon ei ddwyn oddi arno am beth amser. Ond pan dybiais y gallai ei adael am ychydig, gelwais arno ataf, a daeth dan neidio a chwerthin; ac yr oedd wrth ei fodd. Yna gofynnais iddo a roddasai ef rywfaint o fara i'w dad. Ysgydwodd ei ben, a dywedodd, " Dim; ci hyll bwyta cwbl i gyd i hun." Felly rhoddais dafell o fara iddo o gwdyn