Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anturiaethau Robinson Crusoe.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bychan a gariwn i'r pwrpas. Rhoddais lymaid iddo hefyd, ond ni phrofai mohono, ond aeth ag ef i'w dad. Yr oedd gennyf yn fy mhoced hefyd ddau sypyn neu dri o resin, a rhoddais ddyrnaid iddo i'w dad. Nid cynt y rhoddodd y rhain i'w dad nag y gwelwn i ef yn dod allan o'r cwch ac yn rhedeg ymaith, fel petai wedi ei reibio. Rhedai gyda'r fath gyflymdra, nes ei fod o'r golwg megis mewn eiliad, ac er i mi alw arno, a gweiddi ar ei ôl, nid oedd dim gwahaniaeth, ymaith yr aeth. Ac ymhen chwarter awr gwelwn ef yn dychwelyd drachefn, er nad mor gyflym ag yr aethai; ac wrth iddo ddod yn nes gwelwn fod ei gam yn arafach, gan fod ganddo rywbeth yn ei law.

Pan ddaeth ataf, gwelwn ei fod wedi bod adre'r holl ffordd i nôl llestr pridd i ddod â dŵr croyw i'w dad, a bod ganddo ddwy dorth o fara yn rhagor. Rhoddodd y bara i mi, ond aeth â'r dŵr i'w dad. Fodd bynnag, gan fy mod innau hefyd yn sychedig iawn, cymerais innau lymaid bach ohono. Adfywiodd y dŵr fwy ar ei dad na'r holl wirod a roeswn i iddo, gan ei fod ymron â llewygu gan syched.

Wedi i'w dad yfed, gelwais arno i wybod a oedd rhywfaint o ddŵr ar ôl. "Oes," meddai; a pherais iddo ei roi i'r Sbaenwr druan, yr oedd arno gymaint o'i eisiau â'i dad. Anfonais un o'r teisennau, a ddygasai Friday, i'r Sbaenwr hefyd, a oedd yn hynod egwan, ac a orffwysai ar lannerch las dan gysgod coeden; ac yr oedd ei aelodau yn lled stiff ac wedi chwyddo'n fawr gyda'r rhwymynnau geirwon y clymasid ef ynddynt. Pan welais ef yn eistedd i fyny ac yn yfed, ac yn cymryd y