bara a dechrau bwyta, euthum ato; a rhoddais ddyrnaid o resin iddo. Edrychodd yn fy wyneb gyda hynny o arwyddion diolchgarwch ag a allai ymddangos mewn unrhyw wyneb; ond yr oedd mor wan fel na fedrai sefyll ar ei draed. Ceisiodd wneud hynny ddwywaith neu dair, ond methai'n lân, gan fod ei fferau wedi chwyddo cymaint ac mor boenus iddo; felly gorchmynnais iddo eistedd yn llonydd, a pherais i Friday rwbio ei fferau, a'u golchi â rum, megis y gwnaethai i'w dad.
Sylwais fod y creadur serchlawn, bob dau funud neu lai, yn ystod yr amser y bu yno, yn troi ei ben i weld a oedd ei dad yn yr un fan ac yn eistedd fel y gadawsai ef; ac o'r diwedd canfu nad oedd yn y golwg. Ar hynny, neidiodd i fyny, a heb ddweud yr un gair, llamodd ato gyda'r fath gyflymdra fel mai prin y gallai neb weld ei draed yn cyffwrdd â'r llawr wrth iddo fynd. Ond pan aeth yno, canfu nad oedd ddim ond wedi gorwedd i lawr i esmwytho ei aelodau, a daeth Friday yn ôl ataf yn union. Yna dywedais wrth y Sbaenwr am iddo adael i Friday ei helpu i godi, a'i arwain i'r cwch, ac yna y câi ei gario i'n cartref ni lle y gofalwn i amdano. Ond cymerodd Friday y Sbaenwr ar ei gefn, a chariodd ef i'r cwch a gosododd ef i lawr yn esmwyth ar ymyl y canŵ, gyda'i draed y tu mewn iddo, ac yna cododd ef i mewn, a gosododd ef wrth ochr ei dad; ac yna gwthiodd y cwch allan a rhwyfodd ef gyda'r lan ynghynt nag y medrwn i gerdded, er bod y gwynt yn chwythu'n lled galed hefyd. Ac aeth â'r ddau yn ddiogel i'r gilfach; a chan eu gadael