chwe llongwr o Bortugal ar y bwrdd wedi eu cymryd o long arall; fod pump o'u dynion hwy wedi boddi pan gollwyd y llong, a bod y rhain wedi dianc trwy enbydrwydd a pheryglon di-rif, ac wedi cyrraedd, bron ar drengi, i lannau'r canibaliaid. Dywedodd wrthyf fod ganddynt rywfaint o arfau gyda hwy, ond nid oeddynt o ddefnydd yn y byd iddynt.
Gofynnais iddo a oeddynt wedi ffurfio rhyw gynllun o gwbl i ddianc oddi yno. Dywedodd eu bod wedi cael aml gydymgynghoriad ynglŷn â'r peth; ond gan nad oedd ganddynt na llong, nac arfau i godi un, na darpariaethau o fath yn y byd, terfynai pob cyngor o'r eiddynt mewn dagrau ac anobaith. Gofynnais iddo, sut tybed y buasent yn derbyn cynnig gennyf fi, a allai fod yn llwybr ymwared iddynt. Dywedais wrtho mai'r peth a ofnwn fwyaf oedd eu brad, ac iddynt fy ngham-drin os rhoddwn fy hunan yn eu dwylo. Dywedais wrtho mai peth annheg iawn fyddai i mi fod yn foddion i'w gwaredu ac iddynt hwythau wedyn fynd â mi'n garcharor i New Sbain; ac y buasai'n well gennyf gael fy mwyta'n fyw gan yr anwariaid na syrthio i grafangau di—drugaredd yr offeiriaid a'm dwyn i'r Chwil—lys.
Atebodd yntau fod eu cyflwr mor druenus, a'u bod hwythau'n gwybod hynny, fel y tybiai ef y buasent yn casau'r syniad o drin yn angharedig yr un dyn a fyddai'n gymorth i'w gwaredu; ac os mynnwn, fe âi ef atynt gyda'r hen ŵr, ac ymddiddan â hwy am y peth, a dychwelyd drachefn a dwyn eu hateb i mi; y gwnâi ef amodau â hwynt ar eu llw y byddent yn hollol dan fy ar-