Yr oedd ei rybudd mor amserol a'i gyngor mor dda fel na allwn lai na bod yn fodlon iawn i'w gynnig. Felly aethom ati i gloddio ein pedwar; ac ymhen y mis, yr oedd gennym ddigon o dir wedi ei drin i hau dau fwysel ar hugain o haidd arno, ac un llestraid ar bymtheg o reis, sef, hynny o hadyd oedd gennym yn sbâr; yn wir, ni chadwasom ddigon o haidd yn fwyd i ni ein hunain am y chwe mis y byddai'n rhaid i ni ddisgwyl am ein cnwd; hynny ydyw, a chyfrif o'r adeg y rhoesom ein hadyd o'r neilltu i'w hau.
Yr un pryd llwyddais i ychwanegu at y ddiadell o eifr dofion a oedd gennyf. Ac i'r diben hwn, gwneuthum i Friday a'r Sbaenwr fynd allan un dydd, a minnau a Friday drannoeth; a thrwy'r cynllun hwn cawsom tuag ugain o fynnod ieuainc i'w magu gyda'r lleill. Casglasom hefyd swm mawr o rawnwin gan eu sychu yn yr haul; a'r rhain, gyda'n bara, ydoedd y rhan fwyaf o'n bwyd; ac yr oedd yn fwyd maethlon iawn hefyd.
Erbyn hyn yr oedd yn adeg cynhaeaf, ac yr oedd gennym gnwd da. Nid oedd mo'r cynnyrch mwyaf a welswn yn yr ynys, ond yr oedd yn ddigon i'n pwrpas ni; canys, allan o ddau fwysel ar hugain o haidd yr oeddem wedi cywain a dyrnu dros ddau gant ac ugain o fwyseli, a'r un fath ar gyfartaledd o reis. Yr oedd hyn yn ddigon o fwyd i ni tan y cynhaeaf nesaf, hyd yn oed petai'r un Sbaenwr ar bymtheg gyda ni.
Yn awr, gan fod gennyf ddigonedd o fwyd i'r holl wahoddedigion a ddisgwyliwn, rhoddais ganiatâd i'r Sbaenwr fynd drosodd i'r tir mawr i weld beth a allai wneud â'r rhai a adawsai ar ôl y