PENNOD XXVII
ROBINSON YN GWAREDU'R CAPTEN A'I GYFEILLION—CYNORTHWYO'R CAPTEN I ORCHFYGU'R GWRTHRYFELWYR.
ADEG pen—llanw oedd hi pan laniodd y bobl hyn; a thra y buont hwy yn dadlau â'r carcharorion ac yn crwydro o amgylch i weld pa fath le yr oeddynt ynddo, buont yn ddigon diofal i aros nes yr oedd y dŵr wedi treio cryn lawer, a gadael eu cwch ar lawr. Yr oeddynt wedi gadael dau ddyn yn y cwch, a'r ddau, fel y sylwais wedyn, gan eu bod wedi yfed gormod o frandi, wedi syrthio i gysgu. Fodd bynnag, gan i un ohonynt ddeffro o flaen y llall, a gweld y cwch wedi glynu gormod iddo ef ei symud, gwaeddodd ar y gweddill, ac ar hynny daeth y cwbl at y cwch. Ond yr oedd ei lansio y tu hwnt i'w gallu, gan fod y cwch yn drwm iawn, a'r traeth yr ochr honno yn dywod meddal gwlyb. Yn y cyflwr hwn y gadawsant ef, ac aethant ymaith drachefn i'r wlad; a chlywais un ohonynt yn dweud yn uchel wrth y llall, wrth alw arnynt oddi wrth y cwch: "Gad lonydd iddo Jac, wnei di? fe nofia'r teit nesaf."
A rhoddodd hyn sicrwydd llawn i mi ynglŷn â'm prif ymholiad, sef, dynion o ba wlad oeddynt. Yn ystod yr amser hwn, cedwais fy hunan o'r golwg, heb feiddio symud o'm castell, dim